Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

17 Ionawr 2021

SL(6)116 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”). Mae’r Ddeddf honno yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau a ganlyn:

·         Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002;

·         Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007; a

·         Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth ynglŷn â thystysgrifau cofnod troseddol manwl a darparu gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol.  Ystyrir bod y diwygiadau'n angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau bod darpariaeth briodol o fewn y setiau o Reoliadau sy'n cael eu diwygio yng ngoleuni'r ffaith bod y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grym yn rhannol a bod adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 wedi’i ddiddymu.

Daeth y Rheoliadau hyn i rym ar 18 Ionawr 2022. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu bod diwygiadau pellach i is-ddeddfwriaeth arall yn debygol o gael eu gwneud maes o law, o ganlyniad i Ddeddf 2018.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Fe’u gwnaed ar: 16 Rhagfyr 2021

Fe’u gosodwyd ar: 17 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym ar: 18 Ionawr 2022